Grŵp trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ddiabetes

Cofnodion cyfarfod cyffredin a gynhaliwyd ddydd Mawrth 19 Mai yn Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel

 

Yn bresennol

Jenny Rathbone AC (Cadeirydd)

Jeff Cuthbert AC

John Griffiths (Aelod lleyg)

Julia Platts (Arweinydd Clinigol Cenedlaethol)

Jason Harding (Diabetes UK Cymru)

Jonathan Hudson (Astrazeneca)

Becky Reeve (Sanofi)

Katy Edwards (Gofal Diabetes Roche)

Ken Irwin (Gofal Diabetes Roche)

Jason Harding (Diabetes UK Cymru)

Penny Griffiths (Cymorth gan eraill sydd ‰ Diabetes)

Dr Lindsay George (Arweinydd Clinigol, Diabetes, Ysbyty Llandochau)

Scott Cawley (Podiatreg Cymru Gyfan)

Yvonne Johns (Grwpiau Cyfeirio Cleifion ‰ DiabetesGogledd Cymru)

Paul Coker (Input Patient Advocacy)

David Chapman (yn cynrychioli Medtronic)

Ros Meek (Medtronic)

Robert Wright (Aelod lleyg)

Helen Cunningham (swyddfa Jenny Rathbone AC)

Lesley Jordan (Input)

Mike Russell (MSD)

           

Apologies

Dai Williams (Diabetes UK Cymru)

Dr Sarah Davies (Canolfan Feddygol Woodlands, Caerdydd)

Julia Coffey (Johnson & Johnson)

Alex Locke (Johnson & Johnson)

Wendy Gane (Cymorth gan eraill sydd ‰ Diabetes)

Bethan Jenkins AC

Jackie Dent

Hugh Thomas (Fferylliaeth Gymunedol Cymru)

Pippa Ford (Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi  )

 

 

 

 

 

 

1)    Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir ac nid oedd unrhyw faterion yn codi nad oeddent ar yr agenda.

2)    Craffu ar waith y Byrddau Iechyd (Julia Platts / Jason Harding)

Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan Helen Cunningham am ymatebion y Byrddau Iechyd i geisiadau am wybodaeth yn ymwneud ‰Õu Hadroddiadau Blynyddol ar y Cynllun Cyflenwi Diabetes. Roedd bron pob un wedi eu cyhoeddi, neu wrthiÕn eu cyhoeddi. Cafwyd ymateb dros dro gan Abertawe Bro Morgannwg. Cadarnhaodd Jenny ei bod wedi rhoi gwybod i Julie James, yr Aelod dros Orllewin Abertawe, am yr ymateb. Dywedodd Jason y byddaiÕn edrych ar yr holl Gynlluniau Cyflenwi / Adroddiadau Blynyddol ac yn paratoi crynodeb ohonynt erbyn y cyfarfod nesaf a chytunwyd y byddaiÕn ddefnyddiol pe baiÕr Grŵp trawsbleidiol yn trafod etoÕr gwahaniaethau rhwng y byrddau iechyd.

Cam iÕw gymryd: Helen i anfon copi o ymateb Abertawe Bro Morgannwg at Julie James

Cam iÕw gymryd: Jason i gymharu cynlluniau cyflenwiÕr Byrddau Iechyd erbyn y cyfarfod nesaf.

Rhannodd Jason gop•au oÕr dangosyddion gofal y maeÕn rhaid iÕr Byrddau Iechyd eu defnyddio. Ar ™l eu trafod, cytunwyd eu bod yn ffordd allweddol o asesu perfformiad. Dywedodd Jenny Rathbone ei bod yn bwysig eu bod yn hwylus i ddefnyddwyr eu gweld er mwyn iddynt wybod pa gwestiynau iÕw gofyn. Nododd Lesley Jordan nad oedd hyfforddiant ar ddefnyddio pwmp inswlin ar y rhestr. Ychwanegodd Julia nad oedd modd cynnwys popeth ac, fel dangosyddion, byddaiÕr manylion yn parhau i gael eu hychwanegu wrth iÕr broses fynd rhagddi.

3)    Cyflwr y Genedl  Ð adroddiad 2015 (Jason Harding)

Rhoddodd Jason drosolwg ar adroddiad blynyddol Diabetes UK ar ddiabetes yng Nghymru, sef Cyflwr y Genedl. Roedd yr adroddiad yn nodi cynnydd drwy gyfrwng system goleuadau traffig coch, melyn a gwyrdd. Un thema allweddol oedd Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Ddiabetes, ynghyd ‰Õr gallu i gael profion fel rhan o ofal sylfaenol, a chydweithrediad rhwng byrddau rheoli. Dywedodd Jason wrth y grŵp mai un oÕr meysydd lle na welwyd fawr o gynnydd oedd y gwaith o atal diabetes. ByddaiÕn fuddiol, meddai, ystyried yr hyn roedd Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn ei wneud yn y cyswllt hwn. Trafodwyd a ddylaiÕr grŵp ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn awgrymu y dylid ailedrych ar yr ymchwiliad. Dywedodd Yvonne Johns y gallai fod yn werth aros nes caiff canllawiau NICE eu cyhoeddi ym mis Awst.

Trafodwyd cyllido a diogelu gwariant gofal iechyd hefyd. Soniodd Jenny Rathbone am y gost o beidio ‰ gweithredu. Dywedodd Lindsay George hefyd fod y broses o ad-drefnu gwasanaethauÕn berthnasol.  

Cyfeiriodd Robert Wright at Grwpiau Cyflenwi Cleifion ‰ Diabetes a theimlai ei bod yn bwysig eu bod yn cael eu cynnwys ym mr”ff y grŵp cyflenwi. Dywedodd Julia Platts ei bod yn ymwybodol o rai problemau ym Mhowys yn arbennig yn ymwneud ag ymgysylltu ‰ chleifion. Nid oes arweinydd clinigol yno a dywedodd wrth y grŵp y byddaiÕn cyfarfod ‰ Phrif Weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn fuan.

 

4)    Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan  (Julia Platts)

CyfarfuÕr grŵp gweithredu ddiwedd mis Mawrth. Dyrannwyd £1 miliwn iÕr grŵp, sydd wediÕi neilltuo i helpu i roiÕr Cynllun Cyflenwi Diabetes ar waith. Esboniodd Julia y cynlluniau drafft, nad yw Llywodraeth Cymru wediÕu cymeradwyo eto, ond syÕn cynnwys y materion a ganlyn:

Mae tri maes iechyd, sef clefyd cardiofasgwlar, str™c a diabetes wedi cyfrannu £100,000 yr un (£300,000 i gyd) i greu rhaglen atal diabetes mewn gofal sylfaenol, a bydd y rhaglen yn dechrau yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Ystyriwyd arfer gorau yng Nghaerfyrddin, a sgrinio mewn fferyllfeydd.

Pediatreg Ð maeÕr rhwydwaith clinigol wediÕi sefydlu ac maeÕr holl Fyrddau Iechyd wedi cynnal adolygiadau gan gymheiriaid ac maeÕr rhain wedi arwain eisoes at gamau i ymdrin ‰ risgiau a phryderon. Nodwyd bod addysg strwythurol wediÕi datblygu ar gyfer oedolion ond nid plant.  

Gofal trosiannol Ð mae hyn yn ymddangos yn faes gwan a chynigir sefydlu cydgysylltydd gofal trosiannol. Mae arfer daÕn cynnwys ÒJust Duck itÓ a ÒDiabetes UncutÓ. Soniodd John Griffiths hefyd am brosiect Ash Cymru i dargedu pobl ifanc syÕn debygol o ddechrau ysmygu, a oedd yn cynnwys arfer defnyddiol.

TGCh / SCI DC Ð maeÕr grŵp wedi sylweddoli nad ywÕn hawdd trosglwyddo SCI DC ac nad yw cofrestrau ar gyfer clefydau penodol yn briodol. Dyrannwyd £150,000 dros dro i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ond dywedodd Julia fod angen gofalu mai cyllid am gyfnod penodol oedd hwn ac na fydd yn troiÕn bwll diwaelod.

Gofal i gleifion preswyl Ð mae hyfforddiant Think Glucose wedi dechrau eisoes. Ar 18 Mehefin, mae cyfarfod cleifion preswyl cenedlaethol a fydd yn gyfle i ysbytai baratoi cynlluniau gweithredu i ymdrin ‰ materion syÕn codi oÕr archwiliad cleifion preswyl.

Gofal traed Ð mae holl ysbytai Cymru, ac eithrio Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cofrestru i gael archwiliad gofal traed. Mae cynnig i sefydlu hyrwyddwr gofal traed rhan amser a fyddaiÕn gallu casgluÕr holl ddata ynghyd ‰ thargedu sut i osgoi gorfod torri traed i ffwrdd. Gellid cynnal adolygiadau gan gymheiriaid ym maes gofal traed ond mae angen gwneud yn siŵr ei fod yn effeithiol.  

Addysg strwythuredig Ð mae cynnig i neilltuo £200,000 i gyflogi cydgysylltydd addysg amser llawn ar gyfer Cymru i wellaÕr cyrsiau addysg sydd ar gael ac i annog pobl i fanteisio arnynt (DAFNE ar gyfer diabetes math 1 ac Xpert ar gyfer diabetes math 2) ac archwilio ffyrdd newydd o ddarparu addysg ochr yn ochr ‰Õr rhaglenni achrededig).  

Gofal sylfaenol Ð cynigir neilltuo £300,000 ar gyfer uned cymorth gofal sylfaenol a fydd yn targedu meddygon teulu yn y chwartel gwanaf er mwyn iddynt gael cymorth nyrsys diabetes arbenigol cymunedol. Tanlinellodd Julia na fydd hyn yn disodliÕr ddarpariaeth a ddylai fod ganddynt eisoes, ac nid Ò™l gyllidÓ i Fyrddau Iechyd fydd hyn. Caiff prototeip ei ddatblygu.  Yn ™l Lindsay George, roedd hyn yn gynnig da, oherwydd yng Nghaerdydd mae ymgynghorwyr ar gael i gynorthwyo meddygol teulu ond nid yw hyn yn digwydd yn y meddygfeydd yn y chwartel isaf.

 

5)    Y wybodaeth ddiweddaraf am ofal i gleifion preswyl a phympiau inswlin (Jason Harding)

Dywedodd Jason wrth y grŵp na fydd Abertawe Bro Morgannwg yn cael eu herlyn bellach am esgeuluso Lillian Williams yn fwriadol. Mae disgwyl y caiff dwy nyrs eu herlyn yr haf hwn. Ar ™l yr achosion llys, bydd Diabetes UK yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am ddiogelwch cleifion, meddai Jason.

Dywedodd Jason fod yr is-grwpiauÕn bwrw ymlaen ‰ darnau amrywiol o waith a gofynnodd iÕr aelodau gysylltu ag ef oes oedd angen rhagor o wybodaeth arnynt.

Unrhyw fater arall gan gynnwys dyddiad y cyfarfod nesaf

Trafododd y grŵp ddigwyddiad blynyddol Rhanddeiliaid Diabetes aÕr dyddiadau posibl. Er mwyn gwneud popeth posibl i sicrhau bod cleifion yn cyfarfod ‰Õu AC, cytunwyd iÕw gynnal  ar ddyddiad pan nad oedd yr Aelodau ar ymweliad pwyllgor. Cytunwyd ar 17 Mehefin fel dyddiad dros dro.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf: dydd Mawrth 22 Medi am 12pm